Cyfreithiwr Cyffredinol yn gwadu osgoi trethi
- Cyhoeddwyd

Mae Cyfreithiwr Cyffredinol Cymru a Lloegr, Robert Buckland QC, wedi gwadu ceisio osgoi talu trethi ar ôl cael ei enwi fel un o fuddsoddwyr mewn cynllun sy'n destun ymchwiliad.
Mae'r Sunday Times yn honni bod yr AS Ceidwadol wedi buddsoddi yng nghynllun Invicta Film Partnership, sy'n dan ymchwiliad gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Dywedodd Mr Buckland, gafodd ei eni yn Llanelli, ei fod wedi cael cyngor gan ymgynghorydd annibynnol am y cynllun.
Nid oedd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am wneud sylw.
'Gwbl agored'
Mewn datganiad, dywedodd Mr Buckland: "Dydw i heb geisio osgoi trethi, ac mae fy muddsoddiadau yn gyhoeddus."
Dywedodd ei fod wedi cael cyngor annibynnol cyn gwneud y buddsoddiadau, ac ychwanegodd nad oedd yn credu bod ymchwiliad i'w achos o yn benodol.
"Rydw i'n talu fy nhrethi bob blwyddyn, ac rydw i wedi bod yn gwbl agored gyda'r llywodraeth ac wedi datgan fy niddordebau yn y ffordd briodol."
Mae'r Sunday Times wedi adrodd bod Mr Buckland yn aelod o'r cynllun buddsoddi ers 2005, ond bod neges i aelodau yn dweud eu bod "yn destun ymchwiliad gan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi".
Cafodd cynlluniau ffilm tebyg eu sefydlu i geisio rhoi hwb i'r diwydiant ffilm yn y DU drwy gynnig llai o drethi i fuddsoddwyr yn y diwydiant.
Yn 2011, fe benderfynodd tribiwnlys bod y cynlluniau yn cael eu defnyddio i osgoi trethi yn hytrach na er mwyn busnes.
Cafodd Mr Buckland, sy'n AS dros dde Swindon, ei eni yn Llanelli ac fe weithiodd fel cyfreithiwr yng Nghaerdydd ac Abertawe cyn symud i fyd gwleidyddiaeth.