Beirniadu symud Ian Watkins i garchar gwahanol
- Cyhoeddwyd

Mae'r canwr Ian Watkins, gafodd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant, wedi ei symud i garchar lle mae troseddwyr rhyw yn cael eu cadw.
Cafodd Watkins, oedd yn aelod o'r band Lostprophets, ei garcharu am 29 o flynyddoedd yn 2013 am droseddau yn cynnwys ceisio treisio babi.
Mae o wedi ei symud o garchar HMP Long Lartin, sydd yn y categori mwyaf diogel - categori A, i HMP Rye Hill, carchar categori B.
Mae ei gyn-gariad, Joanne Mjadzelics, wnaeth ddweud wrth yr heddlu am droseddau Watkins, wedi beirniadu'r penderfyniad.
Dywedodd Ms Mjadzelics: "Mae Ian Watkins i fod mewn carchar go iawn am 29 o flynyddoedd - nid mewn lloches i bedoffiliaid.
"Dwi'n gwybod pa mor ddrwg yw'r dyn yma ac ni fydd pobl fel fo yn newid byth ac mae angen iddyn nhw gael eu cosbi yn ddifrifol."
Ychwanegodd: "Os ddim yna lle mae'r gosb iddyn nhw a'r cyfiawnder i'r plant a'r teuluoedd sydd wedi dioddef?"
Cafodd Ms Mjadzelics ei harestio'r llynedd am fod a delweddau anweddus o blant yn ei meddiant, ddaeth gan Watkins.
Penderfynodd rheithgor ei bod hi'n ddieuog, a clywodd y llys ei bod hi wedi ceisio dweud wrth yr heddlu am droseddau Watkins sawl gwaith.
Ar ôl cael ei garcharu cafodd Watkins ei yrru i garchar HMP Wakefield yn Swydd Efrog, sy'n gartref i rai o droseddwyr mwyaf difrifol y wlad.
Yna cafodd ei yrru i HMP Long Lartin, cyn y symud diweddaraf i HMP Rye Hill.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi gwrthod cadarnhau neu wadu'r wybodaeth ond dywedon nhw eu bod nhw'n benderfynol o gael "un o'r trefnau caletaf yn y byd i ddelio gyda throseddwyr rhyw".
Dywedodd llefarydd: "Ar sail y dystiolaeth ddiweddaraf y strategaeth yw i gadw troseddwyr rhyw gyda'i gilydd.
"Drwy wneud hyn, rydyn ni'n gobeithio rhoi troseddwyr rhyw mewn carchardai sy'n cynnig asesiad arbenigol ac ymyrraeth..."
Dywedodd Jon Bird o'r Gymdeithas Genedlaethol i Bobl gafodd eu Camdrin fel Plant ei fod yn "bryderus bod troseddwyr rhyw difrifol yn gallu cymysgu gyda phobl eraill tebyg".
Ychwanegodd bod pryder am os oedd Watkins yn cydweithio'n llawn gyda'r driniaeth mae'n ei dderbyn ac os yw wedi derbyn pa mor ddifrifol oedd ei droseddau.
"Does dim byd i ddangos ei fod wedi ac mae wedi bod yn apelio yn erbyn ei ddedfryd. Mae angen iddo ddeall bod yr hyn wnaeth o yn anghywir."