Plaid Cymru i fynnu 'cydraddoldeb gyda'r Alban'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood AC

Bydd Plaid Cymru yn mynnu cael yr un setliad ariannol a phwerau a'r Alban os oes senedd grog, yn ôl arweinydd y blaid.

Dywedodd Leanne Wood mai "cydraddoldeb gyda'r Alban" fyddai pris cydweithrediad ei phlaid yn San Steffan.

Fel yr SNP a'r Blaid Werdd, mae Plaid Cymru wedi dweud eu bod nhw'n fodlon gweithio gyda llywodraeth leiafrifol Llafur, ond nid y Ceidwadwyr.

Yn y cyfamser, dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru bod y wlad wedi methu allan ar beth cyllid, ond mynnodd Owen Smith bod y setliad yn well na un Lloegr.

'Cydraddoldeb'

Ar raglen Andrew Marr, dywedodd Ms Wood y byddai'n ceisio sicrhau "cydraddoldeb gyda'r Alban yn nhermau cyllid a phwerau".

Dywedodd y byddai Cymru wedi derbyn £1.2 biliwn ychwanegol petai gan y wlad yr un setliad a'r Alban, ac y byddai hynny wedi gwneud "gwahaniaeth mawr yn nhermau toriadau a buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus".

Mae arian y DU yn cael ei rannu i'r gwledydd datganoledig drwy Fformiwla Barnett, gafodd ei ddyfeisio yn y 1970au.

Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth Owen Smith gyfaddef nad yw Fformiwla Barnett yn berffaith, ond dywedodd ei fod yn rhoi gwell setliad i Gymru na Lloegr

Yn ôl Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, mae Cymru yn methu allan ar arian oherwydd y system, ac mae wedi galw am ei newid.

Mae Llafur wedi gwrthod newid y system yn gyfan gwbl, ond maen nhw wedi gaddo edrych ar y mater ar ôl yr etholiad.

£115 y pen

Ar raglen The Sunday Politics, dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith: "Dydy Fformiwla Barnett heb weithio yn dda i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf. Rydyn ni'n glir am hynny. Mae Carwyn yn hollol gywir."

Ychwanegodd: "Ond mae Barnett yn dal i roi £115 y pen i mewn i Gymru i bob £100 sy'n cael ei wario yn Lloegr.

"Felly er nad yw Barnett yn rhoi gymaint a sydd wir ei angen mae dal yn rhoi mwy na mae'r Saeson yn ei gael ar gyfartaledd."