Cyfergyd: URC yn hyderus gydag asesiad o anaf North

  • Cyhoeddwyd
George North

Mae Undeb Rygbi Cymru yn hyderus bod y camau cywir wedi eu dilyn wedi i George North ddioddef ergydion i'w ben yn ystod gêm Cymru a Lloegr, mae'r BBC yn deall.

Roedd y corff sy'n rheoli rygbi rhyngwladol, World Rugby, wedi gofyn am adroddiad gan URC am eu hasesiad o'r asgellwr, oherwydd pryder y gall fod wedi dioddef cyfergyd.

Roedd yn ymddangos bod North wedi cael ei daro yn anymwybodol yn ystod y gêm, ond dywedodd URC ei fod wedi pasio'r profion meddygol i gael parhau ar y cae.

Mae URC yn dweud y bydd timau meddygol yn gwylio llif byw o'r gêm o hyn ymlaen, gan nad oedden nhw wedi gweld North yn cael ei daro'r ail waith.

Prawf cyfergyd

Cafodd North ei gicio yn ei ben yn hanner cyntaf y gêm yn Stadiwm y Mileniwm.

Aeth o'r cae am wyth munud cyn parhau i chwarae, ar ôl pasio'r prawf am gyfergyd.

Cafodd ei daro eto yn yr ail hanner, ond ni chafodd y digwyddiad ei weld gan y meddygon gan eu bod nhw'n trin chwaraewr arall.

Er nad oedd yn dangos symptomau, dywedodd URC bod North wedi ei drin fel petai wedi dioddef cyfergyd ar ôl y gêm.

Ar ôl gweld fideo o ail anaf North, roedd World Rugby eisiau gwybod os oedd yr asesiadau cywir wedi eu cwblhau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae URC wedi cadarnhau bod Samson Lee wedi ei anafu

Yn dilyn y golled i Gymru, dywedodd Warren Gatland: "Ni fyddai'r tîm meddygol wedi ei adael yn ôl ar y cae os nad oedden nhw'n sicr ei fod yn iawn.

"Mae o i weld yn iawn ar hyn o bryd."

Mae URC hefyd wedi cadarnhau bod y prop Samson Lee wedi dioddef cyfergyd yn ystod y gêm.

Nid oes mwy o wybodaeth am ei anaf, ond mae disgwyl i North fod yn holliach i wynebu'r Alban ymhen wythnos.