Hen golofn llechfaen wedi ei dwyn yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i golofn llechfaen gael ei dwyn o lwybr sy'n arwain o Fynydd Llandygai i Riwlas yng Ngwynedd.
Roedd y golofn saith troedfedd o daldra yn sefyll ar y ffin rhwng hen wardiau Penrhyn a'r Faenol am o leiaf canrif.
Dywedodd yr heddlu y byddai'n rhaid cael cerbyd i symud y golofn, ac maen nhw'n ceisio darganfod perchennog 4x4 gwyn gafodd ei weld yn gyrru ar hyd y llwybr tuag at Rhiwlas am tua 3yh ddydd Sadwrn, 31 Ionawr.
Dywedodd Iwan Owen o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r golofn llechfaen yn fawr a thrwm.
"Byddai'n rhaid i gerbyd fod wedi cael ei ddefnyddio i dynnu'r golofn o'i sylfaen, ac mae'n debyg y byddai wedi cael ei dwyn i lenwi galwad penodol. Efallai ei bod wedi cael ei phrynu neu ei gosod yn rhywle arall gan rywun yn ddiniwed.
"Mae ganddi bwysigrwydd symbolaidd i'r gymuned leol, sydd wedi'u cythruddo gan y lladrad yma."