Ffoaduriaid o Uganda yn chwarae rygbi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae wedi dod i'r amlwg bod dau chwaraewr rygbi o Uganda a ddiflannodd ar ôl dod i'r DU i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow y llynedd yn chwarae i glwb lleol yng Nghaerdydd.
Ceisiodd Benon Kizza a Philip Pariya am loches yn y DU, a cafodd y ddau eu cartrefu ger Clwb Rygbi St Peter yn ardal y Rhath.
Dywedodd Cadeirydd y clwb wrth y BBC eu bod wedi arwyddo'r pâr ar ôl "ychydig o fiwrocratiaeth".
Yn ôl Undeb Rygbi Uganda, dwy'r trosglwyddiad heb gael ei glirio ganddyn nhw.
Daeth Kizza and Pariya i sylw'r cyfryngau am y tro cyntaf wedi iddyn nhw fynd ar goll yn ystod y gemau yn Yr Alban yn ystod haf y llynedd, ac roedd adroddiadau eu bod yn gweithio yn ardal Glasgow pan fethon nhw a dychwelyd i Uganda.
Gwnaeth sgiliau'r ddau argraff dda, wedi i'r ddau gael caniatâd i ddefnyddio cae'r clwb. Ac wedi i'r clwb sylweddoli maint eu medr, dewision nhw i arwyddo'r pâr.
Dywedodd World Rugby, sy'n goruchwylio rygbi rhyngwladol, nad oedd ganddyn nhw unrhyw sylw i'w wneud am y sefyllfa.