Cynan, pen dafad a Sioni Winwns

  • Cyhoeddwyd
Dyw'r Hywel Gwynfryn ifanc ddim yn siŵr beth i'w wneud o gawl pen dafad!Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Dyw'r Hywel Gwynfryn ifanc ddim yn siŵr beth i'w wneud o gawl pen dafad!

Mae'r ddarlledwraig Beti George wedi bod yn pori trwy archifau ffilm BBC Cymru ar gyfer cyfres newydd 'Cymru ar Ffilm' sydd i'w gweld ar S4C. Yr wythnos hon sut mae ein harferion bwyta wedi newid sydd dan sylw:

Ac yn y dechreuad roedd... banana

Yn fy marn i Ffrwchnedd yw'r allwedd i'r cyfan! Bwyd cyn ac ar ôl y fanana!

Holwch chi unrhyw un yn fy nghenhedlaeth i am fwyd, a'r atgo' sy' gan bob un yw bwyta'r banana gynta'. Dw i'n cofio'r achlysur fel ddoe. Fe ddaeth perthynas yn ei lifrai milwr i gwrdd â fi ar fy ffordd adre o'r ysgol. A dyma fe'n cynnig y peth od mha - wedi ei bilo. Y fanana heb os ddechreuodd y chwyldro!

Cofiwch, yng Nghoedybryn roedd 'na gogyddesau blaengar iawn. Yr hyn oedd wedi fy nenu i i sefyll arholiad yr Ysgol Sul oedd y wledd wedi gorffen gan gynnwys cream horns Annie Blaenbachcrydd.

Ac roedd mam yn gogyddes heb ei hail hefyd. Fe fuse hi'n rhoi gwres eu traed i Bryn neu Dudley neu hyd yn oed Mary Berry gyda'i phastry.

Disgrifiad o’r llun,
Corddi'r llaeth yn fenyn yn Eifionydd, 1964

Penwaig a pheint

Ond y rhaglen. Mae'n agor gyda dwy eitem gan Hywel Gwynfryn ifanc, ifanc gyda'i acen Sir Fôn yn drwch. Un am wraig fferm yn unigeddau Eifionydd yn g'neud menyn a'r llall am wraig ffarm o Sir Benfro yn g'neud cawl Pen Dafad fydde'n para wythnos mewn gwahanol amrywiade.

Mae 'na hiraethu ar ôl Penwaig Nefyn ond mae cynhaefau'r cerrig gleision yng Nghonwy yn para ac yn werth ei weld - gyda Moc Morgan wrth y llyw ac yn haerllug ddigon yn gofyn beth oedd oedran y fenyw druan oedd yn ei phlyg yn cribinio!

Disgrifiad o’r llun,
Y tiliau'n brysur yn archfarchnad Carrefour yng Nghaerffili yn 1972

A beth am y syniad o dafarndai yn gwerthu peintie o laeth yn ogystal â chwrw? Barodd hynny ddim yn hir.

Cawn gwmni Sioni Winwns yn siarad Cymraeg yn gymysg â Brythoneg.

A'r archfarchnad gynta' yn cyrraedd - daeth Carrefour i Gaerffili! Chwyldro go iawn gwaetha'r modd.

Ond i fi - Jay Rayner Cymraeg y cyfnod sy'n mynd â'r wobr. Neb llai na Cynan y bardd, a'r bolgi yn bwrw ei linyn mesur dros westai a bwytai Cymru. Ac yn cwyno'n hallt am y lle bwyta yng Nghaerdydd oedd yn codi dwbwl pris siop am botelaid o win.

Mae'r cawl i gyd yn flasus dros ben. Ond i ble mae'r cymeriade i gyd wedi mynd?

Cymru ar Ffilm: O'r Pridd i'r Plat, S4C, 22:00, Nos Fercher, 11 Chwefror.

Bydd llais Beti George hefyd i'w glywed ar Beti a'i Phobl, 10:00, BBC Radio Cymru, Dydd Sul 15 Chwefror.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Cynan yn feirniad praff o fwyd a diod yn ogystal â champweithiau llenyddol