Addysg Gymraeg i bawb?
- Cyhoeddwyd

Ym mis Medi 1956 cafodd yr Ysgol Uwchradd Gymraeg gyntaf ei hagor yn Y Rhyl. Ers y dechrau arloesol yn Ysgol Glan Clwyd mae sawl ysgol debyg wedi eu hagor mewn sawl rhan o Gymru.
Ond mewn blog i Cymru Fyw mae'r academydd Dr Seimon Brooks nawr yn galw am sefydlu Ysgolion Uwchradd Cymraeg yn rhai o'n hardaloedd Cymreiciaf:
Cwestiwn Gorllewin Meirionnydd
Mae'n siŵr bod nifer fawr ohonom ni yn gyfarwydd â'r 'West Lothian Question', y cwestiwn cyfansoddiadol mae gwleidyddion wedi ei gael yn amhosib ei ateb.
Wel, dyma gwestiwn anodd arall, 'the West Merioneth Question', cwestiwn gorllewin Meirionnydd! Pam fod addysg uwchradd Gymraeg ar gael ymhob rhan o Gymru ac eithrio yn ein cymunedau mwyaf Cymraeg?
Sefyllfa ryfedd yn wir. Mae ysgolion uwchradd Cymraeg ar gael ymhob rhan o Gymru bron. Mae rhai mewn trefi dwyieithog yn y gogledd a'r gorllewin. Mae llond dwrn yn y de-orllewin. Ond does dim un mewn ardal wledig yn y gogledd. Pam?
Tan yn ddiweddar, roedd rhai o'r cymunedau hyn mor Gymreigaidd, y pwyslais oedd cael y plant yn rhugl mewn Saesneg. Ar yr un pryd, roedd y rhieni yn dymuno fod plant yn derbyn canran o'u haddysg mewn Cymraeg.
Felly, datblygodd trefn o ysgolion dwyieithog yng Ngwynedd, Môn ac yng nghefn gwlad Ceredigion a Sir Gâr hefyd.
Loteri cod post
Ond does dim cysondeb. Ceir polisi gwahanol tuag at y Gymraeg ymhob sir, ac mewn sawl achos ymhob ysgol hefyd. Druan o'r plant! Mae safon eu haddysg yn cael ei benderfynu yn ôl loteri cod post.
Yr unig sir yng Nghymru sy'n llwyddo i gael mwyafrif llethol y plant yn ddwyieithog yw Gwynedd. Ond hyd yn oed yng Ngwynedd, dyw hi ddim yn fêl i gyd. Mae'n rhaid i'r plant astudio 30% o'u pynciau yn ystod blynyddoedd 7-9 (sef 11-14 oed) trwy'r Saesneg.
Tu allan i Wynedd, mae'r sefyllfa yn drychinebus. Yng Ngheredigion dim ond ychydig dros hanner y plant sy'n astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf erbyn TGAU.
Pryder mawr tu hwnt i Wynedd
A dim ond tua hanner y rheini sy'n astudio dau gwrs TGAU, heblaw am y Gymraeg ei hun, drwy'r Gymraeg. I bob pwrpas ymarferol felly, Saesneg yw iaith addysg tua 70% o blant 14-16 oed Ceredigion.
Ym Môn, mae'r un peth yn wir am tua 60% o'r plant. A'r rhain, ar ôl Gwynedd, yw dwy sir Gymreiciaf Cymru!
Mae'n amlwg nad yw llawer o ysgolion 'dwyieithog' cefn gwlad mor ddwyieithog â hynny. Daeth yr amser i gael rhwydwaith o ysgolion Cymraeg penodedig yn eu lle.
Yng Ngwynedd, mae addysg uwchradd yn fwy llewyrchus. Gan fod yr ysgolion dwyieithog yn wirioneddol ddwyieithog, mae mwy o ddadl dros eu cadw.
Er hynny, mae gorfodi plant i dderbyn 30% o'u haddysg trwy'r Saesneg yn bolisi mympwyol braidd. Does dim tystiolaeth wyddonol fod dysgu trwy Saesneg fel hyn yn gwella Saesneg y plant.
Ydych chi'n cytuno gyda Seimon Brooks? Cysylltwch gyda ni ar e-bost cymrufyw@bbc.co.uk neu drwy'n cyfrif Twitter @BBCCymruFyw
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2015