Addysg Gymraeg yn 'loteri cod post' yn ôl academydd
- Cyhoeddwyd

Mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn "loteri cod post", yn ôl yr academydd Dr Simon Brooks.
Mewn erthygl i Cymru Fyw, dywedodd bod cymunedau sydd â chanran uchel o siaradwyr Cymraeg yn colli allan wrth geisio sicrhau addysg o safon uchel drwy gyfrwng y Gymraeg.
Y drefn o gael ysgolion dwyieithog yng Ngwynedd, Môn a chefn gwlad Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sydd yn gyfrifol am hyn meddai, gan fod addysg uwchradd Gymraeg ar gael ymhob rhan o Gymru ac eithrio'r cymunedau mwyaf Cymraeg.
'Sefyllfa drychinebus'
Yn ôl Dr Brooks: "Tu allan i Wynedd, mae'r sefyllfa yn drychinebus. Yng Ngheredigion dim ond ychydig dros hanner y plant sy'n astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf erbyn TGAU.
"A dim ond tua hanner y rheini sy'n astudio dau gwrs TGAU heblaw am y Gymraeg ei hun drwy'r Gymraeg. I bob pwrpas ymarferol felly, Saesneg yw iaith addysg tua 70% o blant 14-16 oed Ceredigion.
"Ym Môn, mae'r un peth yn wir am tua 60% o'r plant. A'r rhain, ar ôl Gwynedd, yw dwy sir Gymreiciaf Cymru."
Mae Simon Brooks o'r farn nad yw llawer o ysgolion 'dwyieithog' cefn gwlad mor ddwyieithog â hynny, ac mae o'r farn fod hi'n amser i gael "rhwydwaith o ysgolion Cymraeg penodedig yn eu lle".
Mater i 'awdurdodau unigol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn ymateb: ''Mae'r ddarpariaeth ieithyddol sydd yn cael ei gynnig o fewn ysgolion - yn Gymraeg, yn ddwyieithog neu o dan y drefn ddeuol - yn fater i awdurdodau lleol unigol.
"Fodd bynnag, drwy ei strategaeth addysg cyfrwng Cymraeg mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg rhugl sydd yn cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Yn dilyn pasio deddf yn 2013 mae'n ofynnol i gynghorau Cymru baratoi Cynlluniau Strategol Cymraeg Mewn Addysg a derbyn sêl bendith gweinidogion er mwyn iddyn nhw ddangos sut y maen nhw'n bwriadu cyrraedd targedau'r Strategaeth."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion: "Mae ein polisi iaith yn sicrhau cyfraddau dilyniant da o ran addysgu ac asesu'r Gymraeg fel iaith gyntaf. Yn 2014 dilynnodd 59.6% o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 4 gwrs Cymraeg Iaith Gyntaf.
"Serch hynny, mae 4 o'n ysgolion (Aberteifi, Henry Richard, Aberaeron a Bro Pedr) yn ysgolion traddodiadol ddwyieithog, lle rhoddir y dewis o gyfrwng astudio i fwyafrif helaeth o bynciau yng Nghyfnod Allweddol 4, ac, er eu bod ar gael yn y ddwy iaith ac er fod y darlun rhywfaint yn wahanol ym mhob ysgol, mae llawer yn dewis astudio eu pynciau drwy gyfrwng y Saesneg."
"Bydd pob ardal yn derbyn adolygiad o'i ddarpariaeth addysg yn ei dro. Serch hynny, bydd y briff ychydig yn wahanol ar gyfer pob ardal yn unol â'r gofynion lleol."