Gall taliadau cynghorau i uwch-swyddogion arbed arian
- Cyhoeddwyd

Gall taliadau sylweddol i uwch-swyddogion sydd yn gadael cynghorau fod o gymorth i awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus i arbed arian yn y tymor hir, meddai adroddiad.
Er bod beirniadaeth gyhoeddus wedi bod o achos taliadau fel hyn, dywed yr adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru bod y broses yn cael ei thrafod mewn dull "foddhaol" ar y cyfan.
Dywed y Swyddfa Archwilio y byddai gwario £254m ar becynnau gadael yn gynnar dros gyfnod o bedair blynedd olygu arbedion o £305m y flwyddyn.
Ond dywed yr adroddiad y gallai gadael swyddi yn wag gynyddu'r pwysau ar weithwyr eraill.
Gadael yn gynnar
Fe wnaeth dros 10,000 o weithwyr adael y 58 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru o dan y cynllun gadael yn gynnar rhwng Ebrill 2010 a Rhagfyr 2013, yn ôl yr adroddiad.
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru oedd yn gyfrifol am y taliad uchaf ar gyfartaledd, sef £100,042, wrth i 28 o staff rannu £2,801,186;
- Cyngor Ceredigion oedd yn gyfrifol am y taliad isaf ar gyfartaledd, sef £9,341, wrth i 292 staff rannu £2,727,456;
- Cyngor Caerdydd oedd wedi gweld y mwyaf o weithwyr yn gadael o dan y cynllun - gyda 1,071 o staff yn gadael gyda thaliad o £25,177 ar gyfartaledd;
- Llywodraeth Cymru gollodd y canran uchaf o'i weithwyr - gyda 977 yn gadael gyda thaliad ar gyfartaledd £49,983.
Dywedodd Darren Millar, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: "Mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus ddangos gwerth am arian a sicrhau eu bod yn rheoli'n effeithlon y pwysau ar ddelifro gwasanaethau gan yr adrannau hyn."