Pryderon am doriadau addysg Gwynedd

  • Cyhoeddwyd
YsgolFfynhonnell y llun, PA

Byddai toriadau arfaethedig o £4.3m i gyllideb ysgolion Gwynedd yn cael effaith "negyddol a phell-gyrhaeddol" ar safonau addysg yn y sir, yn ôl penaethiaid ysgolion uwchradd a llywodraethwyr.

Mewn llythyr at arweinydd y cyngor Dyfed Edwards, dywed Dafydd Roberts, sy'n arwain fforwm penaethiaid ysgolion uwchradd a llywodraethwyr yn y sir, ei fod "yn deall y cyd-destun ariannol echrydus y mae'r Cyngor yn gorfod ei wynebu" ond fod gan y fforwm bryderon am faint y toriadau dros y tair blynedd nesaf.

Ar ben y toriadau arfaethedig, mae Mr Roberts yn dweud bod ysgolion uwchradd y sir yn wynebu toriad o £2m ychwanegol i'w cyllidebau dros y tair blynedd nesaf o ganlyniad i golli grantiau sydd wedi eu hariannu yn ganolog - yn rhannol o achos cwymp yn niferoedd disgyblion.

Mae'r cynghorydd Llafur Sion Jones wedi dechrau ymgyrch ar y we yn gwrthwynebu maint y toriadau. Bydd yn cynnig yng nghyfarfod nesaf Cyngor Gwynedd y dylai rhywfaint o arian gael ei gymryd o'r gronfa ariannol sydd gan y cyngor wrth gefn.

Dywed grŵp Llais Gwynedd ar y cyngor - sydd â 13 o gynghorwyr - y bydd y grŵp yn gwrthwynebu unrhyw doriadau i gyllid ysgolion.

'Toriadau di-gynsail'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn anffodus, oherwydd y toriadau di-gynsail yn y cyllid mae Cyngor Gwynedd yn ei dderbyn gan y llywodraeth i dalu am wasanaethau lleol, nid oes gennym ddewis ond i wario llai ar bob gwasanaethau yr ydym yn ei gynnal - gan gynnwys ysgolion.

"Fel Cyngor, rydym yn cytuno â Fforwm Ysgolion Uwchradd Gwynedd fod ein hysgolion yn gwneud cyfraniad unigryw tuag at ddarparu addysg o'r radd flaenaf i'n plant a'n pobl ifanc.

''Dyma pam fod y Cyngor wedi gosod targed arbedion ar gyfer ysgolion sy'n sylweddol îs na'r hyn a osodwyd ar gyfer pob gwasanaeth arall. Er hyn, rydym yn cydnabod fod y targed arbedion a osodwyd yn heriol iawn.

"Mae Arweinydd a Chabinet y Cyngor yn awyddus i drafod unrhyw bryderon teilwng sydd gan y Fforwm."