Cadarnhau newidiadau i uned famolaeth Ysbyty Glan Clwyd

  • Cyhoeddwyd
BabiFfynhonnell y llun, SPL

Bydd rhaid i ferched beichiog ar draws gogledd Cymru deithio i Fangor neu Wrecsam os ydyn nhw'n wynebu trafferthion wrth roi genedigaeth.

Mae gofal mamolaeth ymgynghorol wedi'i dynnu o Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan am rhwng 12 a 18 mis tan i'r gwasanaeth iechyd allu mynd i'r afael â phryderon staffio.

Mewn cyfarfod ddydd Mawrth, fe wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gymeardwyo adroddiad oedd yn argymell cynnal uned famolaeth dan ofal bydwragedd.

Mae gwleidyddion lleol yn dweud eu bod yn pryderu am y penderfyniad.

'Diogelwch mamau a babanod'

Ond dywedodd Angela Hopkins, Cyfarwyddwr Nyrsio a Bydwreigiaeth: "Rydym yn credu mai cyfuno staff â'r arbenigedd cywir ar ddau safle am gyfnod dros dro yw'r peth iawn i wneud.

"Mae eu rhannu'n rhy denau ar dri safle yn golygu na allwn fod yn sicr bod mamau a babanod yn cael y gofal o'r safon angenrheidiol.

"Nid yw hwn yn newid parhaol ac mae ein cynlluniau ar gyfer yr Uned Is-ranbarthol Gofal Dwys i'r Newydd-anedig (SuRNICC) yn parhau yn nod strategol.

"Bydd gan Ysbyty Glan Clwyd uned dan arweiniad bydwragedd yn barhaus drwy gydol y cyfnod dros dro hwn, fel bod merched iach sy'n cael beichiogrwydd normal yn parhau i eni eu babanod yno.

"Rydym yn gwerthfawrogi y gall hwn fod yn amser pryderus i rai mamau, eu teuluoedd a'n staff. Fodd bynnag, ein prif ystyriaeth yw diogelwch mamau a babanod."

Pryderon

Ychwanegodd cadeirydd y bwrdd Dr Peter Higson: "Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn ddiogel, ond y pryder yw nad yw'n gynaliadwy."

Ychwanegodd: "Rydym ni'n rhoi 18 mis i fynd i'r afael â'r broblem... dim mwy ....mae'n rhaid gwneud hyn."

Roedd AS Dyffryn Clwyd, Ann Jones, ac AS Gorllewin Clwyd, Darren Millar, am weld y cynlluniau'n cael eu rhoi o'r neilltu.

Dywedodd y gwleidyddion eu bod wedi cael gwybod ddydd Llun y bydd y cynllun yn gweld genedigaethau cymhleth yn cael eu symud i naill aYsbyty Maelor yn Wrecsam neu Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Penderfynodd Llywodraeth Cymru y llynedd y dylai gwasanaethau gofal arbennig ar gyfer babanod yng ngogledd Cymru gael ei ganoli yng Nglan Clwyd.

Mae gwasanaethau mamolaeth wedi bod yn destun arolwg dadleuol gan y bwrdd iechyd yn yr ardal.

Dadansoddiad Owain Clarke, Gohebydd Iechyd BBC Cymru

Ar hyn o bryd yn ôl pennaethiaid y bwrdd iechyd does dim digon o feddygon yn gweithio yn y gogledd i gynnal tair uned famolaeth lawn.

Mae'r bwrdd yn dadlau felly nad oes ganddyn nhw ddewis - ond gweithredu ar frys i ddiogelu cleifion. Os yw'r penaethiaid yn cymeradwyo'r cynllun yna fe fydd ysbyty Glan Clwyd, am gyfnod, ond yn gallu cynnig gofal wedi arwain gan fydwragedd.

Mae nifer o wleidyddion lleol eisoes yn gandryll ac wedi beirniadu pennaethiaid am fod yn amharod i drafod y cynllun yn agored gyda staff a chleifion cyn y cyfarfod brynhawn dydd Mawrth.

Mae canllawiau meddygol yn awgrymu fod unedau bydwragedd yn fwy diogel ar gyfer mamau a risg isel o gymhlethdodau yn eu beichiogrwydd , ond mi fydd pryder y gallai bywydau gael eu peryglu os oes yn rhaid i fam sy'n cael trafferthion orfod teithio i Fangor neu Wrecsam.