'Dim penderfyniad i wahardd Delilah'
- Cyhoeddwyd

Mae penaethiaid undeb rygbi Cymru wedi gwadu fod cân Delilah wedi cael ei gwahardd rhag cael ei chware cyn gemau rhyngwladol.
Yn ôl Eifion Davies, aelod o Gôr Meibion Pontarddulais ni chafodd y côr yr hawl i ganu clasur Tom Jones, Delilah.
Cred Mr Jones nad oedd y gân wedi cae ei chanu oherwydd bod yr awdurdodau yn poeni ei fod yn cymeradwyo trais yn erbyn menywod.
"Ni chawsant ganu Delilah. Yn wleidyddol dio ddim yn gywir. Dwi'n siŵr y byddai Tom Jones yn siomedig."
Ond dywed Undeb Rygbi Cymru nad yw'r gân wedi cael ei wahardd.
"Mae'n arfer gennym i newid rhestr y caneuon sy'n cael eu canu yn Stadiwm y Mileniwm."
Mae cyn lywydd Plaid Cymru, Dafydd Iwan, wedi galw am i'r gân gael ei gwahardd.
"Mae'n gan am lofruddiaeth, ac mae'n dueddol o ysgafnhau'r syniad o ladd menywod," meddai.
Cafodd y gân ei rhyddhau yn 1968 ac mae'n cael ei hystyried yn ffefryn gyda chefngowyr Cymru.