Difrod: Beirniadu Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae prif fudiad amgylcheddol Cymru wedi cael ei feirniadu am ganiatáu i ran o nant gael ei difrodi wrth gwblhau gwaith i atal llifogydd yn Llanrwst.
Cafodd y gwaith ar y prosiect £711,000 ei wneud yn ystod y cyfnod silfa pan mae pysgod yn dodwy miloedd o wyau ar wely'r afon.
Mae un aelod cynulliad wedi dweud bod hyn yn dangos bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi "amddifadu" eu cyfrifoldebau.
Dywedodd CNC eu bod yn cymryd "agwedd bragmataidd" a bod hwn yn "achos eithriadol" ble y byddai oedi wedi gallu bygwth y prosiect.
Roedd Alun Ffred Jones AC, cadeirydd pwyllgor amgylcheddol y cynulliad, yn pryderu am y sefyllfa.
Dywedodd: "Mae hyn yn arwydd bod rhywbeth wedi mynd o'i le ar yr achlysur hwn. Mae adfer a diogelu cynefinoedd mewn afonydd a llynnoedd yn flaenoriaeth, ac yn bolisi swyddogol, gan CNC. Mae hi'n ymddangos eu bod nhw wedi diystyru eu polisi eu hunain, a hynny oherwydd pwysau ariannol."
Yn ôl Mr Jones roedd hi'n ymddangos bod y prosiect yn "gawlach" a bod rhaid i rywun egluro beth oedd wedi mynd o'i le ac ymddiheuro.
'Colli am byth'
Cafodd y gwaith ei gynnal llynedd ger stadau tai Maes Tawel a Chae Person.
Dywedodd Pierino Algieri, cyn-swyddog pysgodfeydd gyda CNC, bod y gwaith wedi cael gwared ar y gwely gro ar waelod yr afon ble'r oedd pysgod yn arfer dodwy eu hwyau, a'i fod wedi'i "golli am byth".
Yn ogystal roedd y gwaith wedi'i gwblhau yn ystod y cyfnod silfa ac wedi gadael yr afon fel "diffeithwch".
Dywedodd: "Roeddwn i wedi fy synnu a'n siomi".
"Roeddwn i'n gwybod y byddai rhywfaint o goncrit yn cael ei ddefnyddio mewn ryw ffurf neu'i gilydd, ond doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai ar draws holl wely'r afon."
Ychwanegodd: "Roedd hon yn un o'r ffrydiau magu pwysicaf ar gyfer eog a brithyll y môr.
"Rydw i'n gwybod bod y pysgod yn y brif afon, ond maen nhw'n dod fyny i'r nentydd bychan i ddodwy eu hwyau. Felly mae hyn yn bwysig, allai ddim pwysleisio pa mor bwysig yw'r nentydd bychan."
Dywedodd CNC bod ei swyddog pysgodfeydd wedi ymweld â'r safle bum neu chwech o weithiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Roedden nhw wedi derbyn cyngor gwreiddiol i beidio â chwblhau'r gwaith yn ystod y tymor silfa, ond roedden nhw wedi cael ar ddeall y byddai hyn yn bygwth yr holl brosiect.
"Mi wnaethon ni gymryd agwedd bragmataidd y byddai modd lleihau'r effaith ar yr amgylchedd, gan gynghori Cyngor Conwy bod angen gwneud hynny, a bod hynny'n dderbyniol er mwyn lleihau'r risg o lifogydd yn yr ardal."
"Mi wnaethon ni roi cyngor eglur a chynhwysfawr ynglŷn â beth oedd angen ei wneud i leihau'r effaith ar bysgod yn silfa a'r tir er mwyn sicrhau bod y nant yn cael ei hadfer.
Pan ofynnwyd a gafodd cyngor y cyn-swyddog pysgodfeydd ei ddiystyru neu anwybyddu, dywedodd llefarydd: "Roedd hwn yn achos eithriadol oherwydd y byddai unrhyw oedi wedi effeithio ar yr arian oedd ar gael i'w gwblhau gan Gyngor Conwy.
"Ni wnaethon ni anwybyddu cyngor ein swyddog pysgodfeydd, mi wnaethon ni ddefnyddio'r cyngor hwnnw i gynghori ar sut i leihau effaith y gwaith. Rydym ni'n ymchwilio os cafodd y cyngor hwn ei ddilyn."
Dywedodd Cyngor Conwy: "Mi ymgynghorwyd â Chyfoeth Naturiol Cymru cyn, yn ystod ac ar ôl y gwaith adeiladu, ac mae pob cam rhesymol ymarferol wedi'i gymryd i leihau'r effaith ar yr amgylchedd.
"Ystyrir maes o law, y bydd y gofod sydd wedi ei adael rhwng yr unedau siâp "L" yn cael ei orchuddio gan raean afon, a fydd yn ei dro yn darparu cynefin i'r pysgod hynny sydd bellach yn gallu mudo i fyny'r afon o gwlfer Ffordd Nebo."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi rhoi mwy na £604,000 tuag at gostau'r prosiect ym mis Hydref 2013, a bod yn rhaid gwario'r arian erbyn mis Mawrth eleni.
'Embaras'
Mae hi bron yn ddwy flynedd ers i Gyfoeth Naturiol Cymru gael ei ffurfio, yn flaenorol roedd tri mudiad amgylcheddol yng Nghymru - Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Roedd Dr Maggie Hill yn gyn-gyfarwyddwr yng Nghyngor Cefn Gwlad Cymru a bu'n gweithio am naw mis fel pennaeth cymunedau cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
"Natur, bywyd gwyllt, tirwedd ac ardaloedd sy'n cael eu diogelu yw'r mannau ble mae gwrthdaro posib rhwng yr amgylchedd a datblygiad economaidd i'w gweld, a dyma ble mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd.
"Roeddwn i'n teimlo nad oedd CNC eisiau gweithredu yn y mannau hynny - yn aml roedden nhw'n teimlo embaras am gymryd cyfrifoldeb dros fywyd gwyllt, gwarchod natur, doedden nhw ddim yn ymfalchïo yn y cyfrifoldeb hwnnw."
Ychwanegodd Mr Jones AC: "Maen nhw'n gorff sy'n cael ei noddi gan y llywodraeth, ond maen nhw fod i ymddwyn yn wrthrychol. Maen nhw hefyd yn ymgynghorwyr i'r llywodraeth. Os ydyn nhw'n gwrthod ateb, mae hi'n ymddangos eu bod nhw'n ceisio gwarchod eu hunain neu rywun arall.
"Dyw hynny ddim yn argoeli'n dda i gorff mor newydd."