Dros 140 o ddatblygwyr yn dod i Abertawe
- Cyhoeddwyd

Bydd mwy na 140 o ddatblygwyr yn dod i Abertawe i weld cynlluniau ar gyfer dyfodol canol y ddinas.
Bydd cyfle i weld cynlluniau ar gyfer sawl safle, gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig, mewn arddangosfa dydd Mercher.
Mae'r Cyngor eisoes wedi dweud eu bod yn gobeithio penodi datblygwr ar gyfer y cynlluniau i ailddatblygu'r ddinas erbyn cychwyn 2016.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi eu bwriad ailddatblygu canol dinas Abertawe drwy greu "ardal fusnes", ynghyd â chanolfan siopa, canolfan hamdden, swyddfeydd a thai.
Fel rhan o'r cynllun byddai llawer o'r adeiladau presennol ar Ffordd y Brenin yn cael eu dymchwel.
Yn ogystal byddai'r Ganolfan Ddinesig yn cael ei gwerthu er mwyn ariannu'r cynllun.
'Cam nesaf'
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart: "Y cam nesaf yw cyhoeddi ein gweledigaeth i ddatblygwyr yng Nghymru.
"Mae lefel y diddordeb yn y digwyddiad wedi bod yn anferth, gyda dros 140 o ddatblygwyr eisoes wedi cadarnhau y byddan nhw'n dod.
"Mae hyn yn dangos cryn hyder yn ein cynlluniau ac yn Abertawe fel lleoliad ar gyfer buddsoddiad."
Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio y bydd ein cyflwyniad yn arwain t ddatganiadau o ddiddordeb ffurfiol, ac rydym yn gobeithio y bydd datblygwyr wedi eu cadarnhau erbyn cychwyn 2016.
"Fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod yr arbenigwyr gorau bosib yn cymryd rhan yn ein cynlluniau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2015