Halifax 0-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Wedi llawer o bwysau gan yr ymwelwyr aeth Wrecsam ar y blaen yn niwedd yr hanner cyntaf, diolch i gôl gan Neil Ashton.
Roedd y gôl honno'n ddigon i sicrhau lle i Wrecsam yn rownd gyn-derfynol Tlws FA Lloegr, ble y byddan nhw'n wynebu Torquay United yn hwyrach yn y mis.