BBC Cymru Fyw

Ymosodiad ysbyty : Dyn 'ar gyffuriau'

Published
image copyrightWales News Service
image captionClywodd yr achos fod Mr Jones wedi ymosod ar ei wraig Claire Jones oedd yn gweithio yn yr ysbyty, gan geisio ei thagu.

Mae Llys y Goron Casnewydd wedi clywed bod dyn sydd wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio ei wraig yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni ar gyffuriau adeg y drosedd honedig.

Dywedodd yr amddiffyn yn achos Royston Jones ei fod yn ymddwyn "yn seicotig" a hyn yn effeithio ar ei gymhelliad cyn yr ymosodiad.

Clywodd yr achos bod Mr Jones wedi ymosod ar ei wraig Claire Jones oedd yn gweithio yn yr ysbyty, gan geisio ei thagu. Roedd hi'n anymwybodol erbyn i'w chyd-weithwyr lwyddo i'w dynnu oddi arni.

Yn ôl yr amddiffyn, roedd y weithred tu hwnt i'w reolaeth oherwydd effaith y cyffuriau ac felly, meddai, ni allai'r erlyniad brofi ei fod wedi bwriadu lladd Mrs Jones.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol

  • Ymosodiad ysbyty: Meddyg yn achub nyrs