Awyren: Marwolaeth drwy ddamwain
- Published
Mae Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins, wedi cofnodi casgliad o farwolaeth drwy ddamwain yn y cwest i farwolaeth dau gafodd eu lladd pan blymiodd awyren fechan i'r ddaear ym Maes Awyr Penarlâg.
Bu farw Gary Vickers, 58 oed, a Kaye Clarke, 42 oed, y ddau o Gaer, ar ôl i'r awyren Cessna gwympo i'r ddaear ym Maes Awyr Penarlâg, Sir y Fflint ym mis Tachwedd 2013.
Roedd Mr Vickers a Miss Clarke wedi gadael Paris yn gynharach ar ddiwrnod y ddamwain.
Yn ystod y gwrandawiad yn Rhuthun dywedodd tad Mr Vickers bod ei fab yn beilot "hyderus a chymwys" a'i bob tro'n archwilio'r tanciau tanwydd cyn hedfan.
Dywedodd Gordon Vickers nad oedd 'na unrhyw broblemau technegol amlwg gydag awyren Cessna ei fab, ond roedd yn credu fod nam wedi bod o bosib ar fesurydd tanwydd yr awyren y diwrnod hwnnw.
Ychwanegodd: "Ar y math honno o awyren, does dim rhybudd os yw'r tanc yn wag."
'Diffyg tanwydd'
Roedd adroddiad gan Y Gangen Ymchwilio Damweiniau Awyr ym mis Tachwedd 2014 eisoes wedi datgelu bod injan chwith yr awyren wedi colli pŵer o ganlyniad i "ddiffyg tanwydd".
Dywedodd yr adroddiad ar y ddamwain fod y rhan fwyaf o'r tanwydd oedd yn yr awyren wedi ei storio yn y tanciau ategol, ac nad oedden nhw wedi cael eu cysylltu i fwydo'r injan yn iawn.
"O'r dystiolaeth sydd ar gael, mae'n debygol bod y peilot wedi bwriadu cwblhau'r daith drwy ddefnyddio tanwydd o'r prif danciau yn unig, ac roedd wedi eu llwytho gyda dim ond yr hyn roedd o'n meddwl oedd yn ddigon o danwydd.
"Fodd bynnag, nid oedd maint y prif danc tanwydd yn ddigon mawr ar gyfer cwblhau'r daith yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Published
- 13 Tachwedd 2014
- Published
- 19 Tachwedd 2013
- Published
- 17 Tachwedd 2013
- Published
- 16 Tachwedd 2013
- Published
- 15 Tachwedd 2013