Porsche prif weithredwr Cyngor Sir Penfro: £2,368 y mis
- Cyhoeddwyd

Cost llogi Porsche ar gyfer prif weithredwr cyngor sir oedd £2,368 y mis.
Roedd BBC Cymru yn wreiddiol wedi gwneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac anfonodd Cyngor Sir Penfro'r wybodaeth ddiweddara wedi apêl i'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Cafodd cytundeb ar gyfer Porsche Panamera cyn brif weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry-Jones, ei ganslo ar gost o £8,600 pan adawodd ei swydd ym mis Hydref 2014.
Daeth i'r amlwg iddo ddefnyddio "tanwariant" oddi wrth gytundebau llogi ceir blynyddoedd blaenorol tuag at y brydles ar gyfer y car Porsche.
Ei gar blaenorol oedd Jaguar XF ac roedd y brydles yn costio £ 950 y mis.