Cynllunio rhanbarth dinesig Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae rhwydwaith trafnidiaeth metro a band eang cyflymach ar frig y rhestr siopa ar gyfer sefydlu rhanbarth dinesig newydd ar gyfer Caerdydd.
Mae'r cynllun wedi gosod gweledigaethau ar gyfer y 15 mlynedd nesaf wrth geisio gyrru de Cymru yn ei flaen i gystadlu gyda dinasoedd eraill yn y DU.
Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn flaenoriaeth yn ôl yr adroddiad 'Pweru Economi Cymru'.
Mae angen i'r gwasanaethau fod yn "uchelgeisiol, yn ddi-dor ac effeithlon" gan fod gormod o ddibyniaeth ar geir ar hyn o bryd.
Gwell trafnidiaeth
Mae angen i'r rhanbarth adeiladu ar y cynlluniau arfaethedig i drydaneiddio llinellau rheilffordd y Great Western a'r Cymoedd medd yr adroddiad.
Mae'r rhwydwaith - a allai gael ei adeiladu erbyn 2030 - yn golygu trenau, bysiau a thramiau dinas, a gallai gostio dros £2bn os bydd y gwaith yn mynd yn ei flaen.
Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd, Roger Lewis, y gallai'r prosiect ddenu cannoedd o filiynau o bunnoedd o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd i ddatblygu'r Metro yn gymharol gyflym.
Gwasanaethau digidol cyflymach
Maes allweddol arall yw band eang cyflymach, sy'n ddibynadwy ac yn rhad.
"Mae hwn bellach yn rhywbeth sydd yn 'rhaid ei gael' ar gyfer unrhyw ranbarth dinesig sydd gyda dyheadau byd-eang ac yn hanfodol ar gyfer twf economaidd," meddai yr adroddiad.
Mae'n tynnu sylw at y seilwaith sydd eisoes yn ei le, ac yn cael ei ddatblygu ac yn dweud bod angen i'r rhanbarth yn awr fanteisio ar ei "asgwrn cefn ffibr-optig".
Wrth son am ardaloedd lle nad oes signal ffonau symudol mae'n dweud bod angen buddsoddiad parhaus i ddileu hyn a sicrhau fod gwasanaeth 3G a 4G ar gael gan y prif gwmniau rhwydweithiol ar draws y rhanbarth.
Mae'r Gweinidog dros yr Economi Edwina Hart, a sefydlodd fyrddau Rhanbarth Prifddinas Caerdydd a Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, yn dadlau y bydd Cymru gyfan yn elwa os ydynt yn llwyddo i ddenu swyddi a buddsoddiad.
Mae hi'n gwadu bod llu o gyrff y ddinas yn "siopau siarad".
Pan sefydlodd Llywodraeth Cymru'r byrddau cynghori ar gyfer y ddau ranbarth, roedd yn syniad cymharol newydd.
Mae'r rhanbarthau dinesig yng ngogledd Lloegr fel 'One North' eisoes wedi elwa ar filiynau o bunoedd ychwanegol gan y Trysorlys ar gyfer prosiectau y maent wedi eu nodi fel rhai allweddol i dwf economaidd.
"Mae angen i Gymru weithredu'n gyflym i beidio cael eu gadael ar ôl." meddai.