Addewid o £5m i wella sgiliau peirianyddol ym Môn
- Cyhoeddwyd

Gallai hanner y gost o greu canolfan beirianneg gwerth £10m ar Ynys Môn i ddarparu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer yr orsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Gweinidogion wedi gwneud addewid i weithio gyda Grŵp Llandrillo Menai i ddatblygu cynllun busnes ar gyfer y ganolfan yn Llangefni.
Fe fydd angen 8,500 o weithwyr adeiladu a 1,000 o staff parhaol, wedi'r orsaf gael ei hadeiladu ger Cemaes.
Mae'r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau a Thechnoleg Julie James yn ymweld â safle'r Wylfa newydd ddydd Iau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie James:
"Mae dyheadau Rhaglen Ynys Ynni Môn wedi creu cryn argraff arna i er mwyn rhoi Ynys Môn a gogledd orllewin Cymru ar y blaen o ran gwaith ymchwil a datblygu, cynhyrchu a gwasanaethau ym maes ynni.
"Y llynedd, fe roesom £2.3m i Grŵp Llandrillo Menai i ganolbwyntio ar baratoi pobl i weithio ar ddatblygiadau ynni mawr ar Ynys Môn.
"Bydd Canolfan Ragoriaeth mewn Peirianneg yn gallu hyfforddi cannoedd o bobl i ddiwallu'r angen am sgiliau ar gyfer Wylfa a chyflogwyr eraill o fewn y sector ynni."