Proses ddisgyblu llyfrgell: 'Gwastraff arian cyhoeddus'
- Cyhoeddwyd

Mae cyn aelod staff y Llyfrgell Genedlaethol gafodd ei ddiswyddo'n annheg wedi dweud bod y broses ddisgyblu yn ei erbyn yn "wastraff arian cyhoeddus".
Fe wnaeth Arwel Jones ei sylwadau ar ôl i dribiwnlys cyflogaeth ddweud nad oedd cyfiawnhad i'r gosb gafodd e ac Elwyn Williams.
Roedd y ddau wedi honni iddyn nhw gael eu diswyddo i bob pwrpas a bod y llyfrgell wedi torri telerau eu cytundebau drwy israddio eu swyddi.
Mae'r llyfrgell wedi dweud eu bod "yn adolygu eu prosesau" ar ôl colli'r achos tribiwnlys.
Fe alwodd Mr Jones am ymchwiliad i'r broses ddisgyblu a phenderfyniadau prif weithredwr a bwrdd y llyfrgell.
'Ysgytwol'
Hyd yn hyn dyw'r llyfrgell ddim wedi ymateb i'r cais am ymchwiliad.
Dywedodd Mr Jones y dylai'r llyfrgell ymddiheuro am iddo fe a'i deulu gael cyfnod "ysgytwol".
Cafodd y ddau eu hisraddio gan banel disgyblu am gamgymeriadau yn ymwneud â rhoi cytundeb i gwmni preifat.
Dywedodd y tribiwnlys fod y ddau wedi eu diswyddo'n annheg a'u bod ond wedi derbyn un rhybudd.
Roedd y ddau wedi cyfaddef iddyn nhw wneud camgymeriadau mewn proses dendro ond yn pwysleisio nad oedden nhw wedi eu hyfforddi yn y maes.
Dywedodd y Barnwr John Thomas yn ei ddyfarniad: "Nid wyf yn cytuno fod y gosb yn addas."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Awst 2014