Carcharor i hedfan adref o Indonesia
- Published
Mae disgwyl i ddyn 25 oed o Sir Caerffili hedfan adref ar ôl cael ei garcharu yn Indonesia.
Cafodd Mathew Davies o'r Coed Duon ei ddedfrydu i chwe mis o garchar y llynedd wedi i'w visa ddod i ben.
Roedd Davies wedi ei garcharu yng ngharchar Cipinang yn y brifddinas Jakarta.
Ond mae wedi ei ryddhau o'r carchar ac fe fydd yn hedfan adref i Brydain ddydd Iau.
Dywedodd ei fam Yvonne, 53: "Rwy'n falch iawn ei fod yn dod adref. Fe fydd yn braf iawn ei weld a'i gofleidio eto."
Roedd Mathew Davies wedi teithio i Indonesia i weithio gyda chwmni cyfrifiaduron ac mewn bwyty.
Ond fe ddaeth cyfnod ei visa i ben ac fe gafodd ei garcharu ym mis Awst y llynedd.
Mae Mrs Davies yn gobeithio cyfarfod Mathew yn y maes awyr gyda'i gŵr Wayne, 53, a'u mab arall Nathan, 19.
Roedd Lindsay Whittle, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dos Ddwyrain De Cymru wedi ymgyrchu i geisio rhyddhau Mr Davies. Dywedodd: "Fe wnes i ymgyrchu dros ei ryddhau gan nad oeddwn i'n credu fod torri rheolai visa yn ddigon i wynebu'r fath gosb.
"Ond mae'r problemau y wynebodd Mathew yn tanlinellu'r angen i bobl sydd yn byw ag ymweld â gwledydd tramor i gymryd gofal a sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda chyfreithiau lleol."
Dywed Mrs Davies fod y Swyddfa Dramor wedi cysylltu gyda hi i gadarnhau dyddiad rhyddhau ei mab ond nid yw'r Swyddfa yn fodlon gwneud sylw pellach am yr achos.