Heddlu Dyfed Powys angen arbed £10m

  • Cyhoeddwyd
Christopher Salmon
Disgrifiad o’r llun,
Mae Christopher Salmon yn credu y gellid cwtogi ar fiwrocratiaeth yr heddlu

Mae Heddlu Dyfed Powys angen gwneud arbedion o £10 miliwn dros y pum mlynedd nesaf, yn ôl Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys.

Dywedodd Mr Salmon wrth raglen The Wales Report BBC Cymru fod y llu wedi gorfod wynebu toriadau tebyg dros y pum mlynedd blaenorol.

Ac mae hefyd yn rhagweld y bydd Heddlu Dyfed Powys yn wynebu toriadau pellach o hyd at £10 miliwn gan Lywodraeth San Steffan rhwng 2015-20.

Dywedodd fod y toriadau yn rhai y gellid eu cyflawni ac fe fydd yn edrych am ffyrdd i wneud yr arbedion.

Cwtogi Biwrocratiaeth

Mae'n credu fod modd gwneud mwy i gwtogi ar fiwrocratiaeth yr heddlu a gwneud rôl rheolwyr yn fwy effeithiol.

Dywedodd Mr Salmon: "Mae'n dal i fod yn sefydliad biwrocratig, ac mae llawer y gallwn ei dynnu allan.

"Mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar reolaeth yr heddlu, a strwythur y gwahanol rengoedd.

"Mewn termau plaen, fe hoffwn i weld mwy o bobl sy'n gwneud, yn lle dweud."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae diwygio'r heddluoedd yn gweithio ac mae trosedd wedi disgyn dros 20% o dan y llywodraeth hon, yn ôl Arolwg Annibynnol Trosedd Cymru a Lloegr.

"Tra rydym yn cydnabod fod ariannu'r heddlu o'r setliad yn heriol, does dim amheuaeth na fydd yr heddlu yn dal i fod gyda'r adnoddau i wneud eu gwaith pwysig."