Cyhoeddi rhestrau Gwobrau'r Selar
- Cyhoeddwyd

Mae'r cylchgrawn cerddoriaeth gyfoes Y Selar wedi cyhoeddi y rhestrau byr llawn ar gyfer Gwobrau'r Selar eleni.
Bydd enillwyr pob un o'r 12 categori'n cael eu datgelu yng ngŵyl Gwobrau'r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 21 Chwefror.
Dywedodd golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor: "Roedd 2014 yn flwyddyn ddiddorol gydag amrywiaeth eang o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau.
"Mae'r rhestrau byr yn adlewyrchu hynny i raddau gyda rhai o'r bandiau iau yn dechrau cystadlu benben â'r rhai sydd eisoes wedi gwneud eu marc."
"Mae 'na gwpl o'r rhestrau byr yn dal y llygad yn arbennig - mae wedi bod yn flwyddyn arall dda o ran artistiaid newydd, ac mae gen i ddiddordeb mawr gweld pwy o Tymbal, Ysgol Sul a Fleur de Lys fydd yn mynd â theitl y 'Band neu Artist Newydd Gorau.
Categori Newydd
Mae'r Selar hefyd wedi cyhoeddi bod categori newydd 'Offerynnwr Gorau' yn cael ei ychwanegu at y rhestr o wobrau eleni, gyda'r enillydd cyntaf i'w ddatgelu yn y digwyddiad ar 21 Chwefror.
"Mi wnaethon ni ofyn i'r cyhoedd awgrymu categorïau newydd y gallem ni fod yn eu cyflwyno, a phenderfynodd panel Gwobrau'r Selar bod Offerynnwr Gorau'n gyfle i dalu teyrnged i'r cerddorion hynny sydd efallai ddim mor amlwg ar y llwyfan, ond sydd â sgil arbennig," meddai Gwilym Dwyfor.
Rhestrau Byr Gwobrau'r Selar 2014
Record Fer Orau: Cofiwch Dryweryn - Y Ffug; Colli Cwsg - Yr Eira; Cynnydd / Gwenwyn - Sŵnami
Cân Orau: Neb ar ôl - Yws Gwynedd ; Cariad Dosbarth Canol Cymru - Y Ffug; Trysor - Yr Eira
Gwaith Celf Gorau: Arthur - Plu; Colli Cwsg - Yr Eira; Bodoli'n Ddistaw - Candelas
Hyrwyddwyr Gorau: Gŵyl Gwydir; 4 a 6 ; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau: Lisa Gwilym ; Dyl Mei; Griff Lynch
Artist Unigol Gorau: Kizzy Crawford; Yws Gwynedd; Casi Wyn
Digwyddiad Byw Gorau: Gŵyl Crug Mawr; Maes B ; Gŵyl Gwydir
Fideo Cerddoriaeth Gorau: Cynt a'n Bellach - Candelas; Gwenwyn - Sŵnami ; Deud y Byddai'n Disgwyl - Cowbois Rhos Botwnnog
Record Hir Orau: Codi / \ Cysgu - Yws Gwynedd; Bodoli'n Ddistaw - Candelas; Codi'n Fore - Bromas
Band neu Artist Newydd Gorau: Fleur de Lys; Tymbal; Ysgol Sul
Band Gorau: Candelas ; Sŵnami; Y Ffug
Categori newydd: Enillydd i'w gyhoeddi ar y noson