Y Swyddfa Dwyll i dalu costau sylweddol wedi achos llys

  • Cyhoeddwyd
Achos llysFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Eric Evans ag Alan Whiteley ymysg y diffynyddion oedd yn gwadu'r honiadau

Mae'r Swyddfa Dwyll Ddifrifol wedi cael gorchymyn i dalu costau cyfreithiol gwerth miliynau o bunnoedd yn gysylltiedig ag achos twyll honedig yn ymwneud â phedwar gwaith glo brig.

Roedd chwe diffynnydd yn yr achos, oedd yn cynnwys y cyfreithiwr a chyn brif weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd Alan Whiteley, ynghyd â chyn-gyfarwyddwyr cwmni Celtic Energy Richard Walters a Leighton Humphreys, wedi eu cyhuddo o dwyllo cynghorau Nedd Port Talbot, Pen-y-bont ar Ogwr a Phowys, yn ogystal â'r Awdurdod Glo.

Roedd y Swyddfa Dwyll wedi cyhuddo'r dynion o gynllwynio i drosglwyddo perchnogaeth y pedwar gwaith glo i gwmni oedd wedi ei gofrestri dramor - er mwyn osgoi talu am adfer y tir.

Mae'r achos yn un cymhleth ac yn ymwneud â chyfrifoldebau gwerth £170 miliwn i adfer tir ar bedwar safle glo brig yn ne Cymru - safleoedd East Pit ym Mhen Ucha Cwm Tawe, Nant Helen - Onllwyn, Selar - Glyn Nedd a Margam.

Gyda chostau adfer y tir yn codi - a phris glo yn gostwng - fe aeth Celtic Energy i ddyled.

Yn dilyn cyngor cyfreithiol - cafodd cwmni Oak ei sefydlu ar Ynysoedd Virgin y DU yn y Caribî - a'r cwmni hwnnw mwyach fyddai â'r cyfrifoldeb am y tir. Roedd hyn yn canitatáu i Celtic Energy barhau i gloddio - ac yn rhyddhau miliynnau o bunnoedd i'r cyfarwyddwyr.

Heb dorri'r gyfraith

Ond mewn achos llys y llynedd fe gafodd yr achos yn erbyn y dynion ei daflu allan wedi i'r barnwr, Mr Ustus Hickinbottom, ddweud nad oedd unrhyw gyfraith wedi ei thorri - er fod y gweithredoedd yn 'anfoesol'.

Fe ofynnodd y Swyddfa Dwyll Ddifrifol i'r llys i ailgychwyn yr achos yn erbyn y dynion ond fe gafodd y cais ei wrthod gan y barnwr.

Mae'n debyg fod y costau cyfreithiol am ddeg bargyfreithiwr a dau wrandawiad Uchel Lys yn agos at £7m.

Fe all y dyfarniad gael goblygiadau sylweddol i'r Swyddfa Dwyll Ddifrifol, sydd wedi cael ei beirniadu'n ddiweddar am y ffordd y bu'n gyfrifol am erlyn nifer o achosion honedig o dwyll.

Mewn ymateb i'r dyfarniad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dwyll Ddifrifol: "Mae'r Swyddfa Dwyll Ddifrifol yn ystyried opsiynau gwahanol i apelio mewn cysylltiad â dyfarniad Mr Ustus Hickinbottom ar fater costau yn yr achos hwn".

Y tu allan i'r llys ddydd Iau, fe ddwedodd un o'r chwe dyn wrth BBC Cymru - cyfreithiwr Alan Whiteley, cyn brif weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd - bod yr ymdrechion i adfer y pedwar safle yn parhau.

Dywedodd fod 'na arian ar gyfer Nant Helen a Seler, a chynllun ar gyfer East Pit - os caiff hwnnw sêl bendith. Bydd modd wedyn, meddai, edrych ar ddyfodol Margam.