Cynnydd mewn amser aros am driniaeth ddiagnostig
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y cleifion sy'n aros yn hirach na'r disgwyl am wasanaethau diagnostig fel sgan MRI a phrofion uwchsain ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi cynyddu o oddeutu 1,000 ym mis Rhagfyr i ychydig o dan 21,000.
Mae hyn yn golygu fod 27.4% o gleifion - mwy nag un mewn pedwar - wedi methu'r targed wyth wythnos i gael eu gweld.
Roedd ystadegau Llywodraeth Cymru wedi dangos gostyngiad yn yr amseroedd amser yn gyffredinol yn 2014.
Dywed swyddogion fod y ffigyrau ar gyfer mis Rhagfyr yn dueddol o gynyddu wrth i staff fynd ar eu gwyliau dros y Nadolig.
Roedd nifer y bobl oedd yn aros am wasanaethau diagnostig wedi treblu rhwng 2011 a 2013, ond mae'r ffigwr diweddaraf yn ostyngiad o bron i 25% o'r cyfanswm yn Rhagfyr 2013.
Mewn ymateb i'r ffigyrau a gafodd eu rhyddhau ddydd Iau, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams:
"Mae Llywodraeth Lafur Cymru'n dweud ei bod eisiau mynd i'r afael â rhestrau aros hir, ond y ffigyrau hyn yw'r ucha' ers 2011. Dyw e ddim yn ddigon da.
"Mae'n rhaid cofio am y bobl sydd y tu ôl i'r ystadegau hyn, bydd nifer o'r 21,226 o unigolion hyn mewn poen neu'n gweld eu hiechyd yn dirywio. Mae gorfod disgwyl dros naw mis i ddechrau triniaeth yn warthus.
"Beth sy'n glir i mi ydy bod angen i wleidyddion a'r gwasanaeth iechyd gydweithio i daclo'r rhestrau aros hir yma. Dyna pam rydw i'n galw am gomisiwn trawsbleidiol, sydd ddim yn ymwneud ag unrhyw blaid, fel ein bod ni'n gallu taclo'r materion hyn nawr ac i'r dyfodol."