3,500 litr o olew yn llygru afonydd ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
River UskFfynhonnell y llun, jaggery | Geograph
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y ddamwian yn ardal Crug Howel

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod nifer o bysgod wedi marw ar ôl i 3,500 litr o olew lifo i afon ym Mhowys.

Fe wnaeth yr olew lifo i nant Cwm Beth yn ardal Crug Hywel, ac erbyn hyn mae peth o'r olew wedi cyrraedd afon Wysg.

"Mae cyfarpar arbenigol wedi ei osod ar y safle er mwyn ceisio atal y llygredd," meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Mae swyddogion arbenigol hefyd ar y safle yn ceisio asesu'r difrod i fywyd gwyllt."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol