Estyn yn penodi prif arolygydd newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Estyn, y corff sy'n gyfrifol am arolygu addysg yng Nghymru, wedi penodi Meilyr Rowlands fel eu prif arolygydd newydd.
Fe fydd Mr Rowlands yn cymryd lle'r Prif Arolygydd presennol, Ann Keane ddiwedd mis Mai 2015.
Bydd yn symud o'i swydd ar hyn o bryd, sef Cyfarwyddwr Strategol Estyn.
Dywedodd y Prif Weinidog: "Llongyfarchiadau i Meilyr Roberts ar ei benodiad a diolch i'r Prif Arolygydd presennol Ann Keane am ei gwaith caled a diwyd yn ystod ei chyfnod yn y swydd.
"Bu Ann yn gyfaill beirniadol i'r llywodraeth hon ac mae wedi bod o gymorth yn systematig i wella safonau ysgolion yng Nghymru drwy broses arolygu drylwyr. Dymunaf yn dda iddi yn y dyfodol."
Dywedodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau Huw Lewis: "Rydym wrthi'n cymryd camau breision ar hyn o bryd o ran gwella perfformiad ysgolion a bydd Meilyr, drwy Estyn, ar y blaen wrth sicrhau bod y safonau hynny'n dal i godi gan graffu'n drwyadl drwy'r broses arolygu."