Perygl colli 64 o swyddi ffatri yn Nhreffynnon
- Published
image copyrightGoogle
Mae perygl y bydd 64 o weithwyr ffatri yn colli eu swyddi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, wedi i gwmni o America ddewis cau eu unig safle yn y DU.
Mae Albany Molecular Research Inc (AMRI) yn darparu gwasanaethau datblygu cemegau ac yn cynhyrchu cynhwysion ffarmacoleg.
Dydd Iau, dywedodd y byddai'n ymgynghori â staff i geisio cyfyngu ar y nifer fydd yn colli eu gwaith.
Dywedodd AMRI nad oedd y safle wedi llwyddo i weithredu fel cyswllt rhwng Ewrop ac America, ac nad oedd nawr yn cyd-fynd â "chyfeiriad strategol newydd" y cwmni.