Gwrthdrawiad lori: Enwi'r trydydd
- Published
Mae Heddlu Avon a Somerset wedi cyhoeddi enw'r trydydd dyn gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad difrifol yng Nghaerfaddon.
Bu farw Robert Parker, oedd yn 59 oed ac o Gwmbrân, yn y digwyddiad laddodd dau ddyn arall a merch ifanc.
Y ddau ddyn arall oedd Stephen Vaughan, 34 oed, a Phillip Allen, 52 oed - y ddau o Abertawe.
Mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi mai Mitzi Rosanna Steady o Gaerfaddon oedd y ferch ifanc gafodd ei lladd.
Mewn datganiad, mae cwmni Western Power Distribution wedi cadarnhau bod dau o'r dynion, Phil Allen a Robert Parker, yn reolwyr gyda'r cwmni.
Dywedodd llefarydd bod meddyliau pawb yn y cwmni gyda theuluoedd y dynion.
Ddydd Mawrth, cafodd teyrnged ei roi i Mr Vaughan, oedd yn gyn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe.
image copyrightWales News Service