Y cerddor Cymraeg Steve Strange wedi marw
- Cyhoeddwyd

Daeth Steve Strange i amlygrwydd yn ystod cyfnod cerddordol y New Romantics yn yr 80au
Mae'r cerddor Steve Strange, ddaeth i amlygrwydd yn yr 1980au gyda'i grŵp pop Visage, wedi marw yn 55 oed yn dilyn trawiad yn yr Aifft.
Roedd y Cymro o Drecelyn yn enwog am ganu'r gan 'Fade to Grey', ac roedd yn gymeriad blaenllaw - a lliwgar - yn ystod cyfnod a ffasiwn cerddorol y New Romantics.
Cafodd Visage ei ffurfio yn 1979 ac fe gyrhaeddodd eu sengl y deg uchaf yn y siartiau yn 1981.
Dywedodd cyn gyd-aelodau'r band, Midge Ure a Rusty Egan, eu bod wedi torri eu calonau wrth glywed am ei farwolaeth, gan ychwanegu fod "Steve yn un o enwau mawr yr 80au".
Daeth teyrngedau hefyd gan ffigyrau amlwg eraill y cyfnod gan gynnwys Simon Le Bon o'r grŵp Duran Duran.