Achub criw llong bysgota ger Ynys Enlli

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd y dynion eu cludo i'r ysbyty gan yr hofrennydd

Mae pedwar dyn wedi eu hachub o long bysgota mewn tywydd garw ger Ynys Enlli, wrth iddi hwylio o Aberdaugleddau i Gonwy.

Cafodd hofrennydd yr Awyrlu a bâd achub eu defnyddio wedi i'r gwasanaethau achub dderbyn cais am gymorth gan y Cesca oddi ar Benrhyn Llŷn am 22:22 nos Iau. Roedd y criw wedi ceisio pwmpio dŵr allan o'r llong ond fe fethodd y pwmp, a bu'n rhaid galw am gymorth.

Bu'n rhaid i bedwar o'r criw gael eu hachub o'r llong gan hofrennydd o'r Fali ar Ynys Môn. Cafodd y dynion eu cludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor, cyn cael eu rhyddhau.

Dywedodd Robert Bowyer o Wasanaeth Gwylio'r Glannau: "Mae'n aml yn benderfyniad anodd i unrhyw gapten i alw am gymorth ac hyd yn oed yn anoddach i adael ei long, sydd yn golygu gadael ei fywoliaeth.

"Wrth alw am gymorth pan wnaeth, fe adawodd capten y Cesca ddigon o amser i'r gwasanaethau brys i gyraedd y digwyddiad a cheisio achub ei long. Er eu bod wedi gorfod gadael y llong, mae ef a'r criw yn ddiogel y bore 'ma."