Dechrau clirio olew o afon ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Olew

Mae'r gwaith wedi dechrau o glirio 3,500 litr o olew sydd wedi llifo i afon ym Mhowys.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru bod pobl wedi gweld pysgod marw yn yr afon yng Nghrughywel, lle mae darn 850m o afon wedi ei effeithio.

Roedd yr olew wedi llifo o Gwm Beth i'r Wysg gan adael haenen ar wyneb y dŵr.

Dywedodd Rhys Hughes o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym wedi lleoli tarddiad y llif olew mewn hen danc olew ac wedi llwyddo i stopio'r llygredd lifo oddi yno.

"Ond fe allai'r olew sydd wedi llwyddo i lifo allan barhau i lygru'r nant drwy'r ffos.

"Mae'r olew wedi cael effaith sylweddol ar yr afon gyda 150 o bysgod wedi marw yn barod, ond nid yw hyd yn hyn yn effeithio ar y Wysg".

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams:

"Mae'r afon wych hon a'i bywyd gwyllt yn hynod o bwysig i'n tref.

"Wrth gwrs, mae'n rhaid i'r gwaith glanhau yn yr ardal fod yn flaenoriaeth i ni. Yn dilyn hyn, rhaid i ni weld faint o niwed sydd wedi bod i'r bywyd gwyllt. Mae'n drist i glywed bod pysgod marw wedi eu darganfod yn barod."