O'r Oesoedd Canol i'r oes ddigidol
- Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Bangor a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn datblygu adnoddau digidol ar gyfer myfyrwyr, er mwyn hybu'r astudiaeth o hanes drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae'r prosiect, sy'n cael ei arwain gan Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, a'i ariannu gan y Coleg Cymraeg, yn gobeithio hyrwyddo astudio hanes canoloesol ymysg myfyrwyr prifysgol a disgyblion yn y chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd.
Eisoes, mae dau ddarlithydd cyfrwng Cymraeg ym maes hanes yr oesoedd canol wedi eu penodi ym Mhrifysgol Bangor ac Aberystwyth, drwy gynllun gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bydd yr adnoddau newydd yn atgyfnerthu'r ddarpariaeth Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru.
Dywedodd Cerys Hudson, Swyddog y prosiect: "Bydd yr adnoddau'n gymorth i fyfyrwyr i drin a thrafod testunau drwy gyfrwng y Gymraeg a byddant ar gael i fyfyrwyr ym mhob prifysgol yng Nghymru a thu hwnt.
"Gobeithir y bydd adnoddau o'r fath yn denu rhagor o fyfyrwyr i astudio hanes yr oesoedd canol yn y brifysgol, yn ogystal â bod o ddiddordeb ehangach i unrhyw un sydd yn awyddus i ddysgu mwy am ein gorffennol."
Bydd amryw o ffynonellau'n cael eu cyhoeddi mis yma, gan gynnwys adnoddau yn ymwneud â Gerallt Gymro ac Oes y Tywysogesau yng Nghymru.
Bydd mwy o adnoddau'n cael eu cyhoeddi wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen.