Enwau Tsieinëeg i atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru
- Cyhoeddwyd

Eryri ynteu Man Yin Feng?
Mae VisitBritain wedi cyhoeddi enwau Tsieinëeg ar gyfer rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru.
Mae'r enwau newydd yn rhan o ymgyrch i geisio denu mwy o ymwelwyr o China i Gymru.
Mae rhai o'r enwau newydd yn fwy confensiynol, fel 'traeth codiad yr haul' ar gyfer Bae Rhosili, tra bod eraill yn amlwg wedi cael mwy o ystyriaeth - Llanfairpwll yn troi yn 'bentref yr ysgyfaint iach', am fod ynganu enw'r pentref yn ymarfer corff i'r ysgyfaint, er enghraifft.