Ariannu addysg uwch: Prifysgolion Cymru ar eu colled?
- Cyhoeddwyd

Mae angen i Lywodraeth Cymru newid y ffordd maen nhw'n ariannu myfyrwyr o Gymru er mwyn sicrhau nad yw prifysgolion Cymru ar eu colled o'u cymharu â phrifysgolion Lloegr.
Dyma rybudd pennaeth y corff sy'n gyfrifol am ddosbarthu arian i brifysgolion yng Nghymru.
Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod eu polisi ar ffioedd dysgu yn fuddsoddiad mewn pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn dewis eu prifysgol ar sail eu hamgylchiadau unigol, yn hytrach na chost ffioedd.
Ychwanegodd bod incwm i'r sector addysg uwch yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda'r ystadegau diweddaraf yn dangos y bydd £48m yn fwy yn dod mewn i'r system yng Nghymru yn 2015-16, na fydd yn cael ei dalu mewn grantiau ffioedd dysgu i sefydliadau tu allan i Gymru.
Ym mis Tachwedd 2013 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai adolygiad o Gyllid Addysg Uwch a Threfniadau Cyllid Myfyrwyr Cymru yn cael ei gynnal, gan gael ei gadeirio gan yr academydd o'r Alban, Yr Athro Ian Diamond.
Arian yn 'gadael' Cymru
Ar hyn o bryd mae degau o filiynau o bunnoedd o'r gyllideb addysg uwch yn cael eu rhoi i brifysgolion yn rhannau eraill o'r DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn talu'r mwyafrif o ffioedd dysgu myfyrwyr o Gymru, a hynny heb ystyriaeth i ble maen nhw'n mynychu'r brifysgol.
Felly mae cyfran o'r gyllideb addysg uwch yn gadael Cymru gan fynd mewn i goffrau prifysgolion eraill yn y DU, a'r rheiny, yn bennaf, yn Lloegr.
Roedd yr amcangyfrif gwreiddiol o faint o arian grant ar gyfer ffioedd dysgu fyddai'n "gadael" Cymru eleni yn £77 miliwn.
Ond mae BBC Cymru ar ddeall y bydd y gwir ffigwr yn agosach at £90 miliwn.
'Her'
Wrth siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Dr David Blaney: "Y gwir yw bod bwlch ariannu hanesyddol rhwng y sector yng Nghymru a'r sector yn Lloegr.
"Felly mi fydd hi'n her i gynnal y perfformiad gwych gan brifysgolion Cymru mewn cyd-destun ble mae pwysau cystadleuol a llai o adnoddau ar gael i'r system yng Nghymru i'w chymharu â Lloegr.
"Mae hi'n her i gynnal hynny ac osgoi llithro mewn i sefyllfa ble mae lefel y buddsoddiad yng Nghymru yn is na'r gystadleuaeth uniongyrchol dros y ffin, gan olygu bod y system yng Nghymru yn llai effeithiol na'r system yn Lloegr."
Mae Prifysgolion Cymru, y corff sy'n cynrychioli sefydliadau addysg uwch eisoes wedi codi pryderon nad ydyn nhw'n gallu cystadlu gyda'u cyfoedion yn Lloegr.
Yn ei gyfweliad gyda BBC Cymru, mae Dr Blaney yn cytuno gyda'u safbwynt: "Yn Lloegr, mae'n rhaid i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr dderbyn benthyciad. Felly mae'r sector yn Lloegr yn derbyn £9,000 gan bob un o'r myfyrwyr hynny ac arian gan y cynghorau cyllido.
"Yng Nghymru mae llawer o'r arian gan y cynghorau cyllido yn cael ei wario ar grantiau ffioedd dysgu, gan olygu bod llai o arian ar gael i'w fuddsoddi yn y sector yng Nghymru i'w gymharu â Lloegr."
Dadansoddiad Gohebydd Addysg BBC Cymru, Arwyn Jones:
Pan ganiataodd llywodraeth y DU i ffioedd dysgu godi, roedd gweinidogion Llywodraeth Cymru am leihau'r baich ar fyfyrwyr yma.
Dim ond y £3,500 cyntaf o'u ffioedd dysgu fydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu, gyda'r llywodraeth yn talu'r gweddill -- lle bynnag y byddan nhw am astudio ym Mhrydain - rhyw £5,500 y flwyddyn.
Nod y llywodraeth ydi sicrhau na fydd unrhyw fyfyriwr yn gorfod poeni gormod am arian wrth chwilio am brifysgol. Dydyn nhw ddim am gyfyngu gorwelion pobl ifanc wrth benderfynu ar eu cwrs addysg uwch.
Mae'n bolisi sy'n boblogaidd iawn ymhlith myfyrwyr a'u teuluoedd.
Felly beth yn union ydi'r broblem?
Wel, mae'n bolisi sy'n costio cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i Lywodraeth Cymru. Arian sy'n dod o'i chronfa addysg uwch.
Wrth i filoedd o fyfyrwyr Cymru fynd dros y ffin i astudio, mae pryderon bod arian allai fynd i brifysgolion yng Nghymru yn mynd, yn hytrach, i sefydliadau Lloegr.
Er enghraifft, eleni mae 18,000 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio yn Lloegr. Ac mae Llywodraeth Cymru yn talu'r mwyafrif o ffioedd pob un ohonyn nhw.
Y cyfanswm ydi £90 miliwn. Arian fyddai wedi mynd i goffrau prifysgolion Cymru, oni bai am y polisi yma gan Lywodraeth Cymru.
Pwynt y prifysgolion ydi -- pam bod ein harian ni yn mynd i goffrau ein cystadleuwyr ni yn Lloegr? Pam bod arian Llywodraeth Cymru yn mynd yn syth i bocedi prifysgolion Lloegr?
'Buddsoddiad mewn pobl ifanc'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu ffioedd dysgu yn Lloegr, mi wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu diogelu myfyrwyr Cymru rhag y cynnydd hwnnw, ble bynnag maen nhw'n astudio yn y DU.
"Mae ein polisi ar ffioedd dysgu yn fuddsoddiad mewn pobl ifanc, gan sicrhau eu bod yn dewis eu prifysgol ar sail eu hamgylchiadau unigol, yn hytrach na chost ffioedd.
"Mae incwm i'r sector addysg uwch yng Nghymru yn parhau i gynyddu, gyda'r ystadegau diweddaraf yn dangos y bydd £48 miliwn yn fwy yn dod mewn i'r system yng Nghymru yn 2015-16, na fydd yn cael ei roi mewn grantiau ffioedd dysgu i sefydliadau tu allan i Gymru.
"Mae adolygiad Diamond o addysg uwch a chyllid myfyrwyr yng Nghymru yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Bydd casgliadau'r adolygiad yn cael eu cyhoeddi yn 2016 gan ddylanwadu ar ddyfodol ariannu addysg uwch yng Nghymru."