Gyrru'n beryglus: Carcharu gyrrwr lori am 30 mis

  • Cyhoeddwyd
Pauline Richards
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Pauline Richards, therapydd galwedigaethol 57 oed, ar ôl cael ei tharo gan y lori.

Mae gyrrwr lori o'r Rhondda wedi'i garcharu am 30 mis wedi i ddynes farw ar ôl cael ei tharo gan ei gerbyd.

Roedd Peter Davies, 54 oed, yn gyrru ar hyd Ffordd Abertawe yn Llangyfelach ar 9 Gorffennaf 2013.

Roedd yn gyrru i gyfeiriad canol dinas Abertawe pan gafodd wrthdrawiad gyda dau gerbyd wedi parcio, a Pauline Richards.

Clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd Davies yn cofio beth ddigwyddodd, ond ei fod wedi'i dristáu gan y digwyddiad.

Fe'i cafwyd yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn achos yn gynharach eleni.

Derbyniodd Peter Davies ddedfryd o 30 mis yn y carchar gan y Barnwr Keith Thomas.

Cafodd Davies ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a bydd yn rhaid iddo gymryd prawf gyrru estynedig.