Caerdydd: Cynnydd yn nhreth y cyngor?

  • Cyhoeddwyd
arianFfynhonnell y llun, PA

Gallai hyd at 587 o bobl golli eu swyddi yn rhan o gynlluniau cyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2015-16.

Fe gafodd y cynlluniau - sydd hefyd yn argymell codi treth y cyngor hyd at 5% - eu cyhoeddi b'nawn Gwener, wedi ymgynghoriad.

Mae'r cyngor yn ceisio cau bwlch o £41 miliwn yn y gyllideb. I wneud hyn, mae'r awdurdod yn cynnig toriadau o £35.7 miliwn, ynghyd a chynnydd o 5% yn nhreth y cyngor.

Bydd y cabinet yn cyfarfod yr wythnos nesaf i drafod y cynlluniau ymhellach, a'r cyngor llawn yn cyfarfod ar 26 Chwefror.

Byddai toriadau staff yn arbed £15.3 miliwn. Yn rhan o'r cynlluniau arfaethedig, mae disgwyl i draean o swyddi rheolwyr ddiflannu.

Mae arweinydd y cyngor, Phil Bale yn galw ar gymunedau i "ail-siapio gwasanaethau".

Fe fydd y cyngor yn rhoi'r gorau i fod yn gyfrifol am gynlluniau chwarae i blant ddiwedd Mawrth - yn y gobaith y bydd cymunedau lleol yn camu i'r adwy.

I'r perwyl hwnnw, mae'r cyngor hefyd yn chwilio am "ffordd arall" i ddarparu gwasanaethau ieuenctid o fis Ebrill ymlaen.

Cynlluniau arfaethedig

Llyfrgelloedd - tynnu cynllun blaenorol, i arbed £283,000 drwy roi'r gorau i ariannu saith cangen, yn ei ôl

Gwasanaethau ieuenctid - Arbed £1.1m ond parhau i gefnogi'r ddarpariaeth

Cynlluniau chwarae i blant - Gweithgareddau o'r fath i gael eu cynnig gan sefydliadau eraill, a'r cyngor yn rhoi'r gorau i fod yn gyfrifol am staffio canolfannau chwarae

Parciau - Gostwng yr arbediad o £30,000

Canolfannau dydd - hanneru'r arbediad gwreiddiol o £800,000, gan gau canolfannau Gabalfa, y Tyllgoed, Llanrhymni a Threlái

Tîm cyffuriau ac alcohol cymunedol - arbed £218,000 drwy gynnig nawdd i ddatblygu elfen wirfoddol y gwasanaeth