Ymchwilio i dân 'bwriadol' yn Wrecsam
- Published
Mae dyn wedi'i gludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn tŷ ym Mharc Caia, Wrecsam.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i Glyn Hafod am 02:05, a chafodd dyn 49 oed ei gludo i'r ysbyty yn dioddef o effeithiau mwg.
Dywedodd Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru bod y tân ym mocs llythyrau'r tŷ, a chredir ei fod wedi'i gychwyn yn fwriadol.
Roedd diffoddwyr wedi eu galw i'r un stryd awr yn gynharach yn dilyn adroddiadau o ddau dân - un mewn car a'r llall mewn sgip.
Ni chredir bod cysylltiad rhwng y digwyddiadau ar hyn o bryd.
Mae Gwasanaeth Tân Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal ymchwiliad ar y cyd i'r tân yn y tŷ.