Ystyried codi tâl am ofal yn ystod brecwast am ddim

  • Cyhoeddwyd
Plant ysgol yn bwyta

Mae Cyngor Môn wedi penderfynu ddydd Llun i ohirio'r penderfyniad i godi tâl ar rieni am ofal eu plant yn ystod cynllun brecwast am ddim tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae hawl gan bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru i gael brecwast am ddim, ond mae Cyngor Ynys Môn yn ystyried codi tâl am ofal y plant yn ystod y gwasanaeth.

Mae'r cyngor yn amcangyfrif y byddai codi tâl am ran o'r gwasanaeth yn dod â £171,000 y flwyddyn i'w coffrau.

Mae Cyngor Môn yn wynebu diffyg ariannol o £4m yn y flwyddyn ariannol nesaf ac mae rhestr o arbedion posib wedi eu cynnig i gael eu trafod gan gynghorwyr.

Un o'r argymhellion yw'r cynnig i godi tâl ar rieni am y clybiau brecwast.