Wrecsam 1-0 Barnet
- Cyhoeddwyd

Cafodd Wrecsam ddechrau digon addawol i'r gêm, gan roi pwysau sylweddol ar yr ymwelwyr, ac mi drodd y pwysau hwnnw'n gôl wrth i Rob Evans ganfod cefn y rhwyd.
Yn yr ail hanner aeth pethau o ddrwg i waeth i Barnet, wrth i John Akinde dderbyn cerdyn coch a chael ei anfon o'r cae.
Llwyddodd Wrecsam i wneud y gorau o fod â chwaraewr ychwanegol ar y cae, gan sicrhau buddugoliaeth.