BBC Cymru Fyw

Wycombe 1-2 Casnewydd

Published
Wedi nifer o gyfleoedd i'r ddau dîm, aeth Casnewydd ar y blaen bron i hanner ffordd drwy'r hanner cyntaf, diolch i gôl gan Yan Klukowski.
Ar ôl 55 munud llwyddodd Wycombe i ddod â phethau'n gyfartal wrth i Fred Onyedinma ganfod cefn y rhwyd.
Ond gyda dim ond 10 munud i fynd tan ddiwedd y gêm, sgoriodd Klukowski eto, i roi'r fantais, a'r fuddugoliaeth, i'r ymwelwyr.