Munster 33-16 Gleision
- Cyhoeddwyd

Aeth Munster ar y blaen wedi ychydig dros 10 munud, diolch i gic gosb lwyddiannus gan JJ Hanrahan, ond o fewn munudau roedd Rhys Patchell wedi unioni'r sgôr gyda chic gosb i'r ymwelwyr.
Ychwanegodd Patchell dri phwynt arall i gyfanswm y Gleision llai na phum munud yn ddiweddarach.
Cyn i'r hanner cyntaf ddod i ben llwyddodd Patchell gyda chic gosb arall, cyn i Hanrahan sgorio dwy gic gosb i ychwanegu 6 phwynt at gyfanswm Munster, gan ddod â'r timau yn gyfartal ar yr egwyl.
Yn gynnar yn yr ail hanner sgoriodd gapten Munster, Denis Hurley, gais i'r tîm cartref, cyn i Jack O'Donoghue wneud yr un fath, 10 munud yn ddiweddarach.
Sgoriodd Josh Navidi gais i'r ymwelwyr, ond nid oedd hynny'n ddigon i atal buddugoliaeth Munster, wrth i Hanrahan lwyddo gyda chic gosb arall, cyn i Ronan O'Mahony sgorio cais ym munud olaf y gêm.