Ailystyried cais cynllunio maes saethu Heddlu'r Gogledd?

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Yn ôl swyddogion cynllunio, dylid gwrthdroi'r penderfyniad i beidio â chaniatau i glybiau gynnau, a mudiadau eraill, ddefnyddio maes saethu Heddlu Gogledd Cymru.

Fis diwethaf roedd cynghorwyr Sir Ddinbych wedi gwrthod cais gan yr heddlu er mwyn i fwy o bobl gael defnyddio eu cyfleusterau yn hen chwarel Craig y Ddywart yn Rhewl, ger Rhuthun.

Roedd yr heddlu'n dweud y byddai llogi'r maes saethu i glybiau cydnabyddedig yn creu incwm, gan ddod â budd i dreth dalwyr.

Ond cytunodd y pwyllgor cynllunio gyda'r gwrthwynebiad lleol. Roedd trigolion yn pryderu am oruchwyliaeth ar y safle, ynghyd â'r posibilrwydd y gall arwain ar gynnydd mewn trais yn ymwneud â gynnau.

Erbyn hyn mae swyddogion cynllunio wedi gofyn i'r cynghorwyr ailystyried eu penderfyniad wedi iddyn nhw gael trafferth egluro'r rhesymau am wrthod y cais oherwydd nad oedd digon o dystiolaeth i'w cefnogi.

Mae adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor cynllunio wythnos nesaf yn awgrymu y gall apêl yn erbyn gwrthod y cais lwyddo, gan ychwanegu:

"Byddai unrhyw amddiffyniad yn erbyn yr apêl i'r penderfyniad i wrthod y cais angen darparu tystiolaeth glir bod posibilrwydd rhesymol o gynnydd mewn troseddu yn yr ardal, neu'n genedlaethol, oherwydd y penderfyniad i ganiatau'r cais.

"Nid yw'r swyddogion yn credu bod y fath dystiolaeth yn bodoli i gefnogi'r penderfyniad i wrthod y cais."