Scarlets 32-14 Connacht
- Cyhoeddwyd

Yn gynnar yn y gêm aeth Connacht ar y blaen, diolch i gic gosb gan Jack Carty wedi dim ond pedwar munud.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r tîm cartref wedi i John Barclay dderbyn cerdyn melyn a chael ei anfon i'r gell gosb.
Roedd pethau'n edrych ychydig yn fwy addawol i'r Scarlets wedi i Steven Shingler unioni'r sgôr, cyn rhoi'r Cymry ar y blaen, diolch i ddwy gic gosb o fewn munudau i'w gilydd.
Ychwanegodd Michael Tagicakibau at fantais y tîm cartref gyda chais, cyn i Harry Robinson a Jordan Williams wneud yr un fath, gan olygu tri chais i'r Scarlets yn yr hanner cyntaf.
Llwyddodd Carty i leihau mantais y Cymry ryw fymryn, drwy lwyddo gyda chic gosb cyn i'r hanner cyntaf ddod i ben.
Ac mi gychwynnodd Carty yr ail hanner yn union yr un ffordd, drwy ychwanegu tri phwynt arall i gyfanswm Connacht.
Funudau yn ddiweddarach roedd James Davies wedi sgorio pedwerydd cais y Scarlets.
Sgoriodd Niyi Adeolokun gais cyntaf Connacht bum munud cyn diwedd y gêm, ond roedd buddugoliaeth y Scarlets eisoes yn ddiogel.