Arestio dyn wedi iddo wawdio'r heddlu
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wawdiodd yr heddlu ar eu tudalen Facebook eu hunain, drwy ddweud "daliwch mi os fedrwch chi", bellach wedi cael ei arestio.
Roedd Logan Rhys James, 19 oed o Gaerffili, ar ffo wythnos wedi iddo gael ei ryddhau'n gynnar o'r carchar, wedi iddo dreulio dedfryd dan glo am ymosodiad gyda chyllell.
Mi wnaeth Heddlu Gwent gyhoeddi llun ohono ar gyfryngau cymdeithasol ynghyd ag apêl am wybodaeth.
Ond o dan hwnnw mi ysgrifennodd James: "Haha daliwch mi os fedrwch chi".
Cafodd ei arestio yng Nghaerffili am tua 17:20 nos Sul, 15 Chwefror, ac ar hyn o bryd mae yn y ddalfa.
Derbyniodd James ddedfryd o wyth mis yn y carchar am glwyfo, affrae, ymosod a bod â chyllell yn ei feddiant.
Dywedodd Heddlu Gwent ei fod wedi'i ail-alw i'r carchar wedi iddo dorri amodau ei drwydded drwy fethu â throi fyny ar gyfer cyfarfod gyda'r gwasanaeth prawf.