Darganfod corff yng Nghyffordd Llandudno
- Cyhoeddwyd
Mae corff dyn ifanc wedi'i ddarganfod yn ardal Cyffordd Llandudno am 11:55 fore Sul, 15 Chwefror.
Dywed Heddlu Gogledd Cymru nad yw'r corff wedi ei adnabod ar hyn o bryd ac mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.