Gwyrddion: Cyhuddo Plaid Cymru o 'fwlio'

  • Cyhoeddwyd
Pippa Bartoletti

Mae'r Blaid Werdd wedi cyhuddo rhai aelodau o Blaid Cymru o 'aflonyddu a bwlio' rhai o'u cefnogwyr ar gyfryngau cymdeithasol, a hynny er gwaethaf trafodaethau rhwng y ddwy blaid ynglŷn â chydweithio.

Daw'r cyhuddiad wedi i arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Pippa Bartoletti, ddweud ei bod hi wedi cyfarfod ag arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, er mwyn trafod tactegau yn erbyn y Blaid Lafur, gan dderbyn cais i beidio â sefyll yn etholaeth Ceredigion.

Dywedodd Ms Bartoletti y byddai'n well gan Blaid Cymru pe bai'r Gwyrddion "yn mynd o'r ffordd" yn hytrach na chreu "cynllun rhesymol" i gydweithio.

Dywedodd Plaid Cymru nad oedden nhw'n adnabod y sylwadau a wnaed.

Mae'r ddwy blaid wedi gwneud addewid y byddan nhw'n cydweithio yn San Steffan mewn cynghrair gwrth-lymder gyda'r SNP, pe bai senedd grog yn dilyn yr etholiad ym mis Mai.

Ond yng Nghymru mae'r Gwyrddion wedi wfftio awgrymiadau y dylen nhw beidio â sefyll mewn etholaethau sy'n cael eu targedu gan Blaid Cymru.

'Cynnydd'

Dywed Ms Bartolotti ei bod hi wedi cyfarfod ag arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, er mwyn trafodd "cynnig hir-dymor" er mwyn "torri cefn y bleidlais Lafur yng Nghymru, a hynny er budd amlwg i'r ddwy blaid."

Ond ar wefan ei phlaid mae Ms Bartoletti yn ysgrifennu: "Y peth diwethaf i ni glywed gan Leanne, ac mae hwn bron iawn yn ddyfyniad uniongyrchol: 'Peidiwch chi â sefyll yng Ngheredigion, ac mi wnawn ni weld os gallwn ni wneud rhywbeth ar ôl hynny.'"

Ychwanegodd mai yn dilyn "cynnydd" yn nifer aelodau'r Blaid Werdd a chynnydd mewn sylw gan y cyfryngau, "mae'r aflonyddu a bwlio arlein gan rai aelodau Plaid Cymru wedi cynyddu.

"Os yw Plaid Cymru wirioneddol eisiau cydweithio mi allen nhw fod wedi creu cynllun rhesymol ar unrhyw bryd, ond o'r arweinydd i lawr, yr unig beth rydym ni wedi ei brofi yw'r agwedd Gwyrddion 'ewch o'r ffordd'", meddai Ms Bartoletti.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Nid ydym yn adnabod y sylwadau a wnaed, ond o beth rydym ni wedi'i weld ar gyfryngau cymdeithasol ac ar strydoedd ar draws y wlad, mae hi'n ymddangos y bydd pobl sy'n pryderu am yr amgylchedd a gwleidyddiaeth werdd draddodiadol yn cefnogi Plaid Cymru ym mis Mai."