Galw i ail-gyflwyno'r hawl i sefyll i wylio pêl-droed
- Cyhoeddwyd

Mae'r mwyafrif llethol o gefnogwyr pêl-droed yn cefnogi'r hawl i sefyll i wylio gemau, yn ôl y Blaid Geidwadol yng Nghymru.
Mae'n rhaid i bob stadiwm fod â seddi yn unig yn yr Uwchgynghrair a'r Bencampwriaeth ers ymchwiliad i drychineb Hillsborough yn 1989, ble fu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl.
Roedd 96% o'r cefnogwyr a ofynnwyd yn dweud eu bod yn cefnogi treial o ardaloedd sefyll diogel.
Dywedodd arweinydd Ceidwadwyr Cymru, Andrew RT Davies, bod gan gefnogwyr pêl-droed yr hawl i gael eu trin fel cefnogwyr campau eraill.
Dywedodd bod y gyfraith yn gwahardd sefyll wedi cael ei "ddrafftio mewn oes wahanol, i ddelio â phroblemau gwahanol".
'Gwell awyrgylch a chyfeillgarwch'
Mae ymddiriedolaeth cefnogwyr pedwar prif glybiau Cymru - Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam - wedi cefnogi'r galw am ailfeddwl gan Lywodraeth y DU.
Mae ardaloedd sefyll diogel wedi cael eu cyflwyno yn llwyddiannus dramor, fel yn uwchgyngrair Yr Almaen, y Bundesliga.
Dywedodd Michael Brunskill o Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed bod gwell gan lawer o gefnogwyr sefyll, gan hawlio y gallai "wella'r awyrgylch a chyfeillgarwch" mewn gemau.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud o'r blaen y bydden nhw yn cynnwys sefyll diogel mewn gemau pêl-droed fel ymroddiad yn eu maniffesto ar gyfer yr etholiad cyffredinol y flwyddyn yma.